Telerau ac Amodau

Ffenest Siop: Telerau ac Amodau

Pwy ydyn ni

Ni yw Ffenest Siop, sydd i’w gweld ar www.ffenestsiop.cymru (“Gwefan”). Mae’r dudalen hon yn gosod y telerau ar gyfer eich defnydd o’n Gwefan, p’un ai a fyddwch yn pori’r wefan neu’n prynu oddi arni, a thrwy ddefnyddio ein Gwefan rydych yn derbyn y telerau hyn. Os nad ydych yn cytuno â’r telerau hyn, ni ddylech ddefnyddio ein Gwefan na phrynu unrhyw beth oddi arni, oherwydd unwaith y byddwch yn gwneud hynny caiff cytundeb cyfreithiol-rwymol ei ffurfio rhyngoch chi a ninnau.

Diweddarwyd y telerau hyn ddiwethaf ym mis Mai 2024. Mae’n bosib y byddwn yn diweddaru’r telerau hyn o bryd i’w gilydd, felly dylech eu gwirio’n rheolaidd gan y bydd unrhyw ddiweddariadau’n berthnasol i’ch defnydd chi o’n Gwefan ni.

Mae’n bwysig i ni eich bod yn deall y telerau hyn, felly mae croeso i chi ofyn os oes unrhyw beth nad ydych yn sicr yn ei gylch, trwy anfon ebost atom yn ffenestsiop@llaiscymru.wales

Defnydd o’n Gwefan ni

Rhoddir caniatâd dros dro i chi ddefnyddio ein Gwefan, ond gallwn ni dynnu’n gwasanaeth yn ôl, neu ei newid, ar unrhyw adeg heb ddweud wrthych a heb fod yn gyfrifol yn gyfreithlon i chi.

Rhaid i chi drin pob cod adnabyddiaeth, cyfrineiriau, a gwybodaeth diogelwch arall yn gyfrinachol. Os byddwn o’r farn eich bod wedi methu cadw cyfrinachedd, mae gennym hawl i analluogi unrhyw wybodaeth diogelwch (yn cynnwys eich cyfrineiriau a chodau).

Ni ddylech ganiatáu i neb arall ddefnyddio ein Gwefan gyda’ch manylion mewngofnodi chi, a dylech ddefnyddio ein Gwefan yn ôl yr hyn a ganiateir gan y gyfraith a’r telerau hyn yn unig. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallwn atal eich defnydd dros dro, neu ei atal yn llwyr, a pheidio â rhoi ad-daliad i chi am unrhyw wasanaethau rydych eisoes wedi eu prynu o fewn eich cytundeb cyfredol.

Rydyn ni’n diweddaru ein Gwefan yn aml, ac yn gwneud newidiadau iddi, ond yn sicr nid oes unrhyw reidrwydd arnom i wneud hyn. Ni fwriadwyd i unrhyw ddeunydd ar ein Gwefan gynnwys cyngor, ac ni ddylech ddibynnu arno. Rydym yn gwrthod pob cyfrifoldeb cyfreithiol a chostau am ddibyniaeth a osodir ar ein Gwefan gan unrhyw un.

Trwy ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn rhoi caniatâd i ni drin yr wybodaeth hon, ac yn cadarnhau bod y data a ddarperir gennych yn gywir.

Gwaherddir chi rhag postio na throsglwyddo i neu o’n Gwefan unrhyw ddeunydd:

  • sy’n fygythiol, difenwol, anllad, anweddus, bradwrus, sarhaus, pornograffaidd, difrïol, yn debygol o annog casineb hiliol, gwahaniaethol, peryglus, gwarthus, ymfflamychol, cableddus, yn difetha hyder, yn torri preifatrwydd, neu a allai achosi annifyrrwch neu anghyfleustra;
  • nad ydych wedi sicrhau’r holl drwyddedau a/neu ganiatâd ar ei gyfer, yn cynnwys gwybodaeth a ffotograffiaeth a fideos;
  • sy’n ffurfio neu’n annog ymddygiad a gâi ei ystyried yn droseddol, yn arwain at atebolrwydd sifil, neu fel arall a fyddai’n groes i gyfraith, neu’n torri hawliau unrhyw drydydd-parti yn y Deyrnas Unedig neu unrhyw wlad arall yn y byd; neu
  • sy’n niweidiol mewn ystyr dechnegol (yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, firysau cyfrifiadurol, bomiau rhesymeg, rhaglen gyfrifiadurol niweidiol y ‘Trojan horse’, abwydod rhyngrwyd, cydrannau niweidiol, data llygredig neu feddalwedd maleisus arall neu ddata niweidiol).

Ni ddylech gam-drin ein Gwefan mewn unrhyw ffordd (gan gynnwys trwy hacio). Byddwn yn cydweithredu’n llawn ag unrhyw awdurdodau sy’n gorfodi’r gyfraith, neu orchymyn llys sy’n gofyn i mi neu sy’n fy nghyfarwyddo i ddatgelu hunaniaeth neu nodi lleoliad unrhyw un sy’n postio deunydd sy’n gweithredu’n groes i’r adran hon.

Nid ydym yn gwarantu i chi y bydd ein Gwefan ar gael yn ddi-dor neu’n rhydd o wallau, a thra byddwn ni’n gwneud pob ymdrech sy’n rhesymol yn fasnachol i sicrhau bod ein Gwefan ar gael 24/7, mae pethau’n digwydd ac ni allwn warantu hyn. Nid ydym yn atebol am unrhyw gyfnodau tawel neu pan nad yw ein Gwefan ar gael i chi. 

Prynu ar-lein

Mae gan ein Gwefan y gallu i ganiatáu i chi brynu proffil busnes neu wasanaeth, yn ogystal â hysbysebion swyddi i’w harddangos ar ein Gwefan.

Pan fyddwch yn gwneud pryniant ar gyfer proffil busnes neu wasanaeth, neu os byddwch yn prynu hysbyseb am swydd ar ein gwefan, eich cyfrifoldeb chi yw uwchlwytho’r holl wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani, yn ogystal â’r delweddau y dymunwch eu harddangos ar eich proffil fel yr amlinellwyd gennym ni, a sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gywir a bod gennych ganiatâd i uwchlwytho’r wybodaeth hon a’i harddangos ar ein cyfeiriadur ar-lein ac ar ein proffiliau Ffenest Siop a Llais Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â’n podlediad Siarad Siop – Shop Talk, fel a nodir yn y pecyn a ddewiswyd gennych chi.

Mae Ffenest Siop yn bodoli i gefnogi gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg, a helpu pobl i gael mynediad atynt; felly, trwy brynu pecyn ar ein gwefan, rhaid i chi warantu bod eich busnes a’ch gwasanaeth ar gael yn Gymraeg a bod yr holl hysbysebion swyddi yno gyda’r bwriad o recriwtio siaradwyr Cymraeg. Ni fyddwn yn fetio eich busnesau a’ch sefydliadau, ac fel rhan o’r cytundeb rhyngom ni fyddwn yn atebol am safon neu ddarpariaeth y Gymraeg y byddwch yn ei chyflwyno i’ch cwsmeriaid a’r marchnadoedd targed; ni fyddwn yn ymdrin ag unrhyw gwynion yng nghyd-destun eich defnydd o’r Gymraeg, na safon eich iaith, ac fel defnyddwyr y Wefan rhaid i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r busnes a’r sefydliad dan sylw os oes gennych unrhyw gwynion. Os byddwch yn methu cyflawni eich addewid o ddarpariaeth yn yr iaith Gymraeg, mae gennym hawl i dynnu eich proffil oddi ar ein Gwefan ac ni fyddwn yn gyfrifol am ad-dalu i chi unrhyw ffioedd rydych eisoes wedi eu talu i ni dan eich cytundeb cyfredol.

Ar ôl i chi brynu eich pecyn a’ch hysbysebion gyda ni, bydd arnom angen hyd at 5 diwrnod gwaith i wneud eich proffiliau a’ch hysbysebion yn fyw ar ein gwefan; gofynnir i chi ganiatáu 3 diwrnod pellach ar gyfer unrhyw wasanaethau cyfieithu ychwanegol a brynwyd.

Gellir gwneud taliadau drwy Stripe, PayPal neu eich dewis o gardiau credyd neu ddebyd (yn dibynnu ar beth rydych yn ei ddefnyddio a pha borwr sydd gennych) – mae eu polisïau preifatrwydd a’u hamodau hwy yn berthnasol, felly dylech eu gwirio. Dylech hefyd wirio ein Polisi Preifatrwydd ni i weld sut caiff eich data personol ei gasglu pan fyddwch yn gwneud taliad neu’n gwneud cais am ad-daliad.

Hawliau’r defnyddiwr

Rydych yn gymwys am hawliau’r defnyddiwr, yn cynnwys hawliau sy’n berthnasol i unrhyw nwyddau diffygiol neu sydd heb fod yn unol â’r disgrifiad ohonynt. Am ragor o wybodaeth, dylech gysylltu â’ch swyddfa Cyngor Ar Bopeth leol neu’r swyddfa Safonau Masnachu. Ni fydd unrhyw beth yn y telerau hyn yn effeithio ar yr hawliau cyfreithiol hynny.

Os byddwch yn derbyn nwyddau nad ydynt o safon derbyniol, gallwch gysylltu â ni yn ffenestsiop@llaiscymru.wales.

Unwaith y bydd eich proffil neu hysbyseb yn fyw ar ein gwefan, gallwch gael mynediad a gwneud newidiadau, ond ni fyddwch yn gymwys i dderbyn ad-daliad unwaith y bydd eich proffil yn fyw.

Ein cyfrifoldeb cyfreithiol i chi

Ni allwn, ac nid ydym, yn gwarantu bod yr holl ddeunydd ar ein Gwefan yn 100% gywir (na heb gynnwys unrhyw fân wallau teipio). Cyn belled ag y bo modd yn gyfreithlon, rydym yn eithrio cyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw golled i chi sy’n deillio o ddefnydd o’n Gwefan ac unrhyw golled o ran incwm, elw, busnes, data, cytundebau, ewyllys da, neu gynilion.

Cyn belled ag y bo modd yn gyfreithiol, rydym hefyd yn eithrio unrhyw delerau a gwarantau neu addewidion a awgrymir gan y gyfraith neu gan statudau. Nid ydym yn eithrio cyfrifoldeb cyfreithiol am farwolaeth neu anaf personol sy’n digwydd o ganlyniad i’n hesgeulustod ni, neu gyfrifoldeb cyfreithiol dros dwyll neu gamddehongli twyllodrus, neu am unrhyw beth arall lle nad yw’r gyfraith yn caniatáu eithrio.

Hawliau eiddo deallusol

Rydyn ni’n greadigol, dyna rydyn ni’n ei wneud. Oherwydd hynny, mae hawlfraint a hawliau eiddo deallusol yn bwysig iawn i ni. Ni yw perchennog neu ddaliwr trwydded yr holl hawliau eiddo deallusol yn ein Gwefan a’r nwyddau sydd ar gael i’w prynu arni (oni nodir fel arall) (er enghraifft yr hawlfraint ac unrhyw hawliau yn y cynllun, dyluniad, delweddau, testun a chynnwys) ac yn unrhyw ran o’r deunydd gaiff ei bostio arni. Diogelir y rhain drwy hawlfraint.

Ni chaniateir i chi gopïo, dadosod, gwrtholi, dadgrynhoi na safio’r rhain mewn unrhyw ddull nac ar unrhyw ffurf, trwy unrhyw ddull electronig, â llaw, mecanyddol, digidol, gweledol, ffotograffaidd, nac fel arall o unrhyw ran o’n heiddo deallusol i’w hawlio fel eich eiddo chi i bwrpas ailddosbarthu, delio neu ailwerthu’r cynhyrchion neu’r gwasanaethau.

Os byddwch yn torri’r telerau hyn byddwch yn colli eich hawl i ddefnyddio’n Gwefan, a rhaid i chi ddinistrio neu ddychwelyd unrhyw gopïau a wnaed gennych o’n cynnwys digidol neu’n cynhyrchion.

Troseddau cyfrifiadurol

Mae’r rhain yn cynnwys pethau megis cyflwyno firysau, abwydod rhyngrwyd, Trojans, ac unrhyw ddeunydd arall sy’n gwneud drwg yn dechnolegol neu sy’n niweidiol mewn rhyw ffordd.

Os byddwch yn gwneud unrhyw beth sy’n dramgwydd troseddol dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990, bydd eich hawl i ddefnyddio ein Gwefan yn dod i ben ar unwaith. Byddwn hefyd yn eich riportio i’r awdurdodau perthnasol ac yn datgelu eich enw iddynt.

Ni ddylech geisio cael mynediad i’n Gwefan na’n gweinydd, nac unrhyw fasdata cysylltiedig, na gwneud unrhyw ‘ymosodiad’ ar ein Gwefan. Ni fyddwn yn gyfrifol yn gyfreithlon i chi am unrhyw niwed a ddaw o firysau neu ddeunydd niweidiol arall y byddwch yn eu pigo i fyny drwy ein Gwefan.

Dolenni i’n Gwefan

Mae gennych hawl i greu dolen gyfreithlon i dudalen hafan ein Gwefan ni o’ch gwefan chi, ond gallwn ddod â’r caniatâd hwn i ben ar unrhyw adeg. Ni ddylech awgrymu unrhyw gefnogaeth gennym ni, neu gysylltiad â ni, oni fyddwn ni’n cytuno’n ysgrifenedig i hynny.

Sut rydyn ni’n defnyddio eich data personol

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni. Am fanylion llawn ynghylch pa ddata personol rydym yn ei gasglu a pham, ewch at ein Polisi Preifatrwydd..

Y stwff (diflas) cyfreithiol

Mae’n bosib y byddwn yn newid y telerau hyn o bryd i’w gilydd, a dylech eu gwirio’n rheolaidd am unrhyw newidiadau gan eich bod yn ymrwymedig iddynt.

Mae’r telerau hyn yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni yng nghyd-destun y defnydd o’n Gwefan neu brynu nwyddau gennym ni. Rydych yn cydnabod nad ydych wedi dibynnu ar unrhyw ddatganiad, cynrychiolaeth, gwarant, sicrwydd, neu addewid a wnaed gennym ni neu ar ein rhan nad yw wedi ei osod allan yn y telerau hyn, ac na fyddwch yn hawlio am gamgynrychiolaeth anfwriadol neu esgeulus neu gamddatganiad esgeulus yn seiliedig ar unrhyw ddatganiad a geir yma.

Oni ddatgenir yn benodol fel arall, nid yw’r telerau hyn yn arwain at unrhyw hawliau dan y Ddeddf Cytundebau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 i orfodi unrhyw un o delerau’r Cytundeb.

Mae’r telerau hyn, ac unrhyw rwymedigaethau anghytundebol sy’n codi trwy hyn yn cael eu llywodraethu gan, a’u dehongli’n unol â, deddfau Cymru a Lloegr, ac mae pob anghydfod sy’n codi dan y telerau hyn (yn cynnwys anghydfod neu gais anghytundebol) yn amodol ar awdurdodaeth ecsgliwsif y llysoedd yng Nghymru a Lloegr.