Ydych chi’n berchen ar fusnes Cymraeg? Ydych chi’n rhedeg gwasanaeth Cymraeg? Hoffech chi recriwtio rhagor o siaradwyr Cymraeg i ymuno â’ch tîm? Ymunwch â’n cymuned Gymraeg a gwneud gwahaniaeth yn eich ardal leol a thu hwnt.
Nid dim ond ffenestri sy’n agor wrth ichi ymuno â ni, ry’n ni yma i agor drysau a’ch helpu chi i gysylltu â siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg a’r rhai sy’n angerddol dros gefnogi Cymru.
Mae rhestru eich busnes, sefydliad a swyddi gyda ni yn gyfle i ddangos eich ymrwymiad at dyfu’r iaith, tyfu’r economi leol a chreu cymunedau Cymraeg bywiog lle gall yr hen a’r ifanc ffynnu yn eu hardal leol.
Ein pecyn gwydr sengl yw’r pecyn perffaith ar gyfer busnesau sy’n edrych i hybu eu presenoldeb ar-lein. Gyda’r holl wybodaeth amdanoch yn y Gymraeg a’r Saesneg, ry’n ni’n darparu llwyfan unigryw i chi gysylltu gyda’ch cwsmeriaid yn eu dewis iaith. Gyda lincs i’ch gwefan, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac adolygiadu, ry’n ni yma i greu cysylltiad cryf rhwng busnesau Cymraeg a’i cwsmeriaid.
Mae ein pecyn Gwydr Dwbl yn cynnwys popeth yn y pecyn Gwydr Sengl a mwy! Mwy o sylw ar bob platform, blaenoriaeth i serennu ar ein podlediad, adnoddau gostyngol a chefnogaeth ychwanegol.
Rhestriad dwyieithog yn ein hadran swyddi o'r dyddiad cyhoeddi nes bod y cais yn cau. Does dim cost ychwanegol os yw’r dyddiad cau yn ymestyn.
Hyd at 300 gair yn y Gymraeg a’r Saesneg, lincs i’ch gwefan a ffurflen gais. Mae modd chwilio am ein swyddi ar ein map hefyd gan ei gwneud hi’n haws i bobl ddarganfod swyddi lleol.