Cwestiynau Cyffredin

Os oes gennych gwestiwn am Ffenest Siop a’n gwasanaethau, mae’n werth cael golwg ar ein Cwestiynau Cyffredin isod, gyda gobaith y byddwch yn darganfod eich ateb yn syth. Os na, cysylltwch â ni.

Oes! Mae Ffenest Siop yn bodoli i hybu a hyrwyddo busnesau a gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, er mwyn hybu’r iaith Gymraeg ac economi Cymru.

Wrth gwrs! Os ydych chi’n addo cynnig gwasanaeth iaith Gymraeg i’r cwsmeriaid, cewch ymddangos ar Ffenest Siop.

Na, byddwn ni ddim yn asesu'r lefel a safon y Gymraeg sy’n cael ei gynnig gan eich busnes neu wasanaeth. Pan fyddwch yn tanysgrifio i Ffenest Siop, byddwch yn ymrwymo i’n haddewid iaith Gymraeg, ac yn darparu gwasanaeth sy’n cyd fynd â’r safon mae eich cwsmeriaid yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu. Bydd unrhyw gwynion a dderbynir am eich gwasanaeth Gymraeg yn cael ei anfon atoch i’w ddelio ag ef yn uniongyrchol. Darllenwch ein termau ac amodau ar gyfer rhagor o fanylion neu cysylltwch gyda ni os oes unrhyw gwestiwn.

Oes! Mae’n rhaid talu er mwyn ymddangos ar Ffenest Siop, oherwydd rydyn ni’n fusnes hefyd! Byddem wrth ein boddau yn cynnig y wasanaeth hon am ddim, ond mae hynny’n amhosibl, mae gennym forgeisi i’w talu, plant i’w bwydo ayyb... Rydym yn cynnig telerau sydd mor fforddiadwy â phosib er mwyn bod yn hygyrch i fusnesau a sefydliadau o bob maint. Rydym yma i helpu!

Mae Ffenest Siop yn cael ei redeg gan Llais Cymru, busnes marchnata a PR dwyieithog sy’n helpu sawl busnes a sefydliad i dyfu a chyrraedd mwy o gwsmeriaid. Rydym yn credu y dylai’r iaith Gymraeg fod yn hygyrch i bawb. Rydym yn gwybod bod nifer o bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg yn awyddus ac yn falch o gefnogi gwasanaethau iaith Gymraeg, ac rydym yn gwybod bod cael dwy iaith ochr yn ochr yn helpu’r holl ddysgwyr Cymraeg anhygoel yna i ddatblygu eu sgiliau. Mae ymddangos ar blatfform dwyieithog yn helpu busnesau a gwasanaethau i gyrraedd cwsmeriaid a chefnogwyr newydd, mae’n hollol bositif!

Wrth gwrs! Rydym yma er mwyn hybu’r iaith Gymraeg ac economi Cymru, ond rydym yn hapus i gefnogi busnesau a gwasanaethau sy’n gallu cynnig gwasanaethau iaith Gymraeg y tu allan i Gymru hefyd. Os yw’n hybu’r iaith a Chymru, rydym yn hapus i’ch helpu i gyrraedd mwy o gwsmeriaid a chefnogwyr!

Yn gyntaf, mae’n ddrwg iawn gennym ni. Mae’n rhaid i bob un sy’n ymddangos ar Ffenest Siop ymrwymo gyda’n addewid iaith Gymraeg, sy’n cadarnhau eu bod nhw’n cynnig gwasanaeth iaith Gymraeg. Cysylltwch gyda ni i rannu eich profiad a gallwn eich cyflwyno’n uniongyrchol i’r busnes neu wasanaeth er mwyn cofnodi eich cŵyn.

E-bost Anfonwch e-bost at ffenestsiop@llaiscymru.wales a wnawn ni ymateb mor fuan â phosib!