Busnesau Cymraeg

Ffenest siop ar gyfer busnesau sy’n falch o gynnig eu gwasanaethau yn y Gymraeg.

Siarad Cymraeg? Dysgu Cymraeg? Eisiau cefnogi busnesau sy’n cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg? Rydych chi yn y lle iawn.

Mae pob busnes sydd wedi’u rhestru yn angerddol am gynnig eu gwasanaethau yn y Gymraeg.

Drwy gefnogi’r busnesau yn eich ardal chi, ar eich teithiau o amgylch Cymru a thrwy eu platfformau ar-lein, rydych chi’n gwneud gwahaniaeth. Gyda’n gilydd, gallwn greu Cymru lle mae’r iaith, yr economi leol a chymunedau Cymraeg yn tyfu gyda’i gilydd.

Chwilio am rywbeth arall?

Podlediad Siarad Siop

Gwrandewch ar y lleisiau llwyddiannus yn ein podlediad dwyieithog Siarad Siop – Shop Talk!