Ymunwch â’n sylfaenydd Heulwen Davies yn yr ystafell gyfarfod rhithiol wrth iddi gyfarfod â pherchnogion busnesau Cymraeg ac aelodau Ffenest Siop. Yn ein podlediad gonest a di-sgript, mae Heulwen yn camu i’w byd, yn siarad siop a’i siwrne bersonol wrth i ni ddarganfod yr uchafbwyntiau, yr heriau, a’r uchelgais hir-dymor. Os ydych chi’n mwynhau busnesa tu ôl i’r llenni a darganfod y gyfrinach i lwyddiant, dyma’r podlediad i chi.