Polisi Preifatrwydd
Shwmae! Pwy ydyn ni?
Mae Ffenest Siop, sydd i’w chael yn www.ffenestsiop.cymru (“Gwefan”), yn cael ei rheoli gan y polisi preifatrwydd (“Polisi Preifatrwydd”) sy’n dilyn.
Pwrpas y Polisi Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybod i chi pa wybodaeth sy’n adnabyddadwy yn bersonol y gallwn ei chasglu a sut y gellid ei defnyddio. Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’ch defnydd chi o’n Gwefan (yn cynnwys cysylltu â ni neu bostio sylwadau/adolygiadau ar ein Gwefan), pan fyddwch yn prynu gwasanaethau oddi ar ein Gwefan a phan fyddwch yn ymgysylltu â ni i ddarparu proffiliau, gwasanaethau marchnata, cyfieithu a Chysylltiadau Cyhoeddus (gyda’i gilydd, “Gwasanaethau”) ar eich cyfer.
Rydym yn parchu eich preifatrwydd, ac yn ymrwymo i’w ddiogelu. Yn y cyd-destun hwnnw, rydym yn cydymffurfio â’r fersiwn a gedwir dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd o’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (2016/679), ynghyd â Deddf Diogelu Data y DU 2018. Os caiff unrhyw un o’r deddfau hyn eu newid neu eu disodli, byddwn yn cydymffurfio â’r rhai hynny hefyd.
Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), awdurdod goruchwyliol y DU dros faterion diogelwch data (https://ico.org.uk). Byddem, fodd bynnag, yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddelio â’ch pryderon cyn i chi gysylltu â’r ICO, a gofynnwn i chi gysylltu â ni yn y lle cyntaf trwy anfon ebost at ffenestsiop@llaiscymru.wales
Diweddarwyd y Polisi Preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Mai 2024. Cadwn yr hawl i ddiweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd, felly dylech ei wirio’n rheolaidd. Os byddwn yn gwneud newidiadau sylweddol i’r Polisi Preifatrwydd hwn, a bod angen eich caniatâd i wneud y newidiadau hynny, byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost.
Pa ddata personol rydym yn ei gasglu, a pham?
Diffinnir data personol, neu wybodaeth bersonol, fel unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw. Nid yw’n cynnwys data lle cafodd yr hunaniaeth ei dileu (data di-enw).
Pan fyddwch yn ymgysylltu â ni, mae’n bosib y byddwn yn casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch chi. Pryd bynnag y byddwn yn casglu data personol amdanoch chi, rhaid i ni gael rheswm cyfreithlon (sail gyfreithiol) i wneud hynny.
Gwasanaethau
Cyn i ni allu darparu ein Gwasanaethau ar eich cyfer, bydd angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol gennych. Bydd yr wybodaeth mae arnom ei hangen yn dibynnu ar natur y Gwasanaethau, ond gall gynnwys y canlynol: enw, enw busnes, enw sefydliadol, cyfeiriad ebost, rhif ffôn, cyfeiriad cartref, enwau proffil a dolenni’r cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal, bydd arnom angen yr wybodaeth hon i gysylltu â chi ynghylch unrhyw fater sy’n codi parthed gwasanaeth i’r cwsmer. Ein sail gyfreithiol dros gasglu’r wybodaeth hon yw ei bod yn ein galluogi ni i ddarparu ein Gwasanaethau ar eich cyfer, a’ch bod chi wedi cytuno.
Ymhellach i hyn, gallem hefyd ddefnyddio eich enw a’ch cyfeiriad ebost i anfon atoch unrhyw wybodaeth am ein Gwasanaethau neu fater a godir (yn cynnwys darparu diweddariadau ar newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn neu wybodaeth diogelwch ar eich cyfer). Ein sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich enw a’ch cyfeiriad ebost yn y modd yma yw darparu gwybodaeth berthnasol ynghylch diogelwch eich cyfrif ar-lein, i sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth gyfredol ynghylch sut rydym yn trin eich data personol, ac i weithredu ein cytundeb ni gyda chi (fel yr amlinellwyd uchod).
Gwneud pryniant ar ein Gwefan
Mae gan ein Gwefan y gallu i gymryd taliadau am ein gwasanaethau i’ch galluogi chi i gael eich cynnwys ar ein llwyfannau; pan fyddwch yn gwneud pryniant mae angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol gennych chi, megis eich enw, cyfeiriad ebost, rhif ffôn a chyfeiriad cartref. Caiff y taliadau eu cymryd naill ai gan brosesydd taliadau trydydd-parti, sef ar hyn o bryd Stripe a PayPal, a’ch dewis o gardiau credyd neu ddebyd (yn dibynnu ar ba un y byddwch yn ei ddewis a pha borwr y byddwch yn ei ddefnyddio). Mae PayPal, er enghraifft, yn defnyddio’r protocol SSL “Secure Socket Layer”, sy’n golygu bod pob gwybodaeth yn cael ei hamgryptio gan feddalwedd, ac felly ni allwn ni nac unrhyw drydydd-parti gael mynediad at yr wybodaeth hon tra bydd eich taliad yn cael ei brosesu. Sut bynnag y byddwch yn gwneud taliad, ni fyddwn byth yn gweld eich manylion talu.
Bydd polisïau preifatrwydd y proseswyr trydydd-parti hyn yn berthnasol i’ch pryniant, ac felly dylech ddarllen y rhain cyn gwneud taliad.
Os oes gennych hawl i ad-daliad am unrhyw reswm, ni fyddwn yn gweld eich manylion talu llawn, ond mae’n bosibl y bydd angen i ni gadarnhau pedwar digid olaf y rhif ar eich cerdyn talu.
Ein sail gyfreithiol dros gasglu (a rhannu) yr wybodaeth bersonol hon yw cyflawni ein cytundeb gyda chi fel bod modd i ni ddarparu’r gwasanaethau rydych wedi dewis eu prynu. Rydych chi hefyd wedi cytuno y gellir casglu’r wybodaeth hon.
Sylwadau neu adolygiadau
Pan fyddwch yn gadael sylwadau neu adolygiadau ar ein gwefan byddwn yn casglu’r data a ddangosir yn y ffurflen sylwadau, a hefyd eich cyfeiriad IP a’ch edefyn asiantaeth defnyddiwr ar eich gweinydd i helpu i adnabod spam.
Mae’n bosib y darperir edefyn di-enw a grëwyd o’ch cyfeiriad ebost (a elwir hefyd yn hashnod) i’r gwasanaeth Gravatar i weld a ydych yn ei ddefnyddio. Mae polisi preifatrwydd gwasanaeth Gravatar i’w gael yma: https://automattic.com/privacy/. Ar ôl i’ch sylw gael ei gymeradwyo, mae eich llun proffil yn weladwy i’r cyhoedd yng nghyd-destun eich sylw neu adolygiad.
Rydym yn casglu gwybodaeth am ymwelwyr i’n Gwefan sy’n defnyddio ein gwasanaeth gwrth-spam Akismet. Mae’r wybodaeth rydym yn ei chasglu’n dibynnu ar y modd mae’r defnyddiwr yn gosod Akismet ar gyfer y Wefan, ond fel arfer mae’n cynnwys cyfeiriad IP y person sy’n gwneud y sylw, asiantaeth defnyddiwr, cyfeiriwr, ac URL y wefan (ynghyd â gwybodaeth arall a ddarperir yn uniongyrchol gan y sawl sy’n gwneud y sylw, megis eu henw, enw defnyddiwr, cyfeiriad ebost, a’r sylw ei hun).
Y cyfryngau
Os byddwch yn uwchlwytho delweddau i’n Gwefan, dylech osgoi uwchlwytho delweddau sy’n cynnwys data lleoliad (EXIF GPS) wedi’i ymgorffori ynddynt. Gall ymwelwyr i’n Gwefan lawrlwytho ac echdynnu unrhyw ddata lleoliad o ddelweddau ar ein Gwefan.
Gwybodaeth a gyflwynir yn wirfoddol gennych i’n Gwefan
I’n galluogi ni i greu eich proffil busnes, gwasanaeth neu swydd ar ein gwefan, mae angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol gennych chi, e.e. enw eich busnes neu sefydliad, cyfeiriad gwefan, rhif cyswllt, cyfeiriad ebost, lleoliad i’w ychwanegu at ein map rhyngweithiol ar y wefan, enwau cyfryngau cymdeithasol, a dolenni allanol at unrhyw adolygiadau ar-lein sydd gennych. Er enghraifft, gallech yn wirfoddol gyflwyno gwybodaeth i’n Gwefan trwy adael sylw neu adolygiad, tanysgrifio i gylchlythyr, neu gyflwyno proffil neu ffurflen gysylltu. Ein sail gyfreithiol dros gasglu’r wybodaeth hon yw ei bod yn angenrheidiol i’n budd dilys i gyflwyno cynnwys, cynhyrchion a gwasanaethau perthnasol i chi (dim ond lle rydych wedi rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny) a’ch bod chi wedi cytuno.
Gwybodaeth a gesglir yn awtomatig
Rydym yn awtomatig yn casglu peth gwybodaeth amdanoch chi a’r ddyfais a ddefnyddiwyd gennych i gael mynediad i’n Gwefan. Er enghraifft, pan fyddwch yn defnyddio ein Gwefan byddwn yn logio eich cyfeiriad IP, y math o system weithredu, y math o borwr, y wefan gyfeirio, y tudalennau y buoch yn edrych arnynt, a’r dyddiadau/ amserau pryd y cawsoch fynediad i’n Gwefan. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am unrhyw weithredoedd a wnewch pan yn defnyddio ein Gwefan, megis y dolenni y byddwch yn clicio arnynt.
Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir yn y dulliau canlynol:
I weithredu a chynnal ein Gwefan;
I greu eich cyfrif, eich nodi fel un sy’n defnyddio ein Gwefan, a theilwra ein Gwefan ar gyfer eich cyfrif;
I anfon gwybodaeth hyrwyddo atoch, megis cylchlythyron. Bydd pob ebost hyrwyddo yn cynnwys gwybodaeth sut i eithrio o bostiadau yn y dyfodol;
I anfon cyfathrebiadau gweinyddol atoch, megis ebyst gweinyddol, ebyst i gadarnhau, negeseuon technegol, diweddariadau ar bolisïau, neu rybuddion diogelwch;
I ymateb i’ch sylwadau neu ymholiadau
I ddarparu cymorth defnyddiwr ar eich cyfer;
I dracio a mesur hysbysebion ar ein Gwefan;
I amddiffyn, archwilio, ac atal unrhyw ddefnydd anawdurdodedig neu anghyfreithlon.
Cwcis
Os byddwch yn gadael sylw ar ein Gwefan, gallwch ddewis safio eich enw, cyfeiriad ebost a’ch gwefan mewn cwcis. Mae’r rhain er cyfleustra i chi fel nad oes raid i chi gyflwyno eich manylion eto y tro nesaf y byddwch yn gadael sylw. Bydd y cwcis hyn yn para am flwyddyn.
Os oes gennych gyfrif, a’ch bod yn mewngofnodi i’n Gwefan, byddwn yn gosod cwci dros dro i benderfynu a yw eich porwr yn derbyn cwcis ai peidio. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol, a chaiff ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Pan fyddwch yn mewngofnodi, byddwn hefyd yn gosod nifer o gwcis i safio eich gwybodaeth mewngofnodi a’ch dewisiadau o ran sut i arddangos eich sgrin. Mae’r cwcis mewngofnodi’n para am ddau ddiwrnod, a’r cwcis dewis sgrin yn para am flwyddyn. Os dewiswch “Cofiwch Fi”, bydd eich mewngofnod yn para am bythefnos. Os byddwch yn allgofnodi o’ch cyfrif, caiff y cwcis mewngofnodi eu dileu.
Os byddwch yn golygu neu’n cyhoeddi erthygl, caiff cwci ychwanegol ei safio yn eich porwr. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol, ac nid yw ond yn nodi’r erthygl rydych newydd ei golygu. Bydd yn dod i ben ar ôl 1 diwrnod.
Rydych yn rhydd i wrthod caniatâd i osod cwcis, ond mae hynny’n golygu na fyddwn o bosib yn gallu darparu profiad llawn o’r wefan i chi, yn cynnwys rhai elfennau o hysbysebu ar fideo.
Ein sail gyfreithiol dros gasglu’r wybodaeth hon yw ei bod yn angenrheidiol i ni weithredu ein cytundeb gyda chi, h.y. i roi mynediad i chi at y gwasanaeth a ddarperir gan ein Gwefan. Mae arnom angen yr wybodaeth hon hefyd i astudio sut rydych yn defnyddio ein Gwefan, er mwyn gwella a datblygu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu, a gwella’r modd rydym yn llywio ein strategaethau marchnata.
Cynnwys wedi’i ymgorffori o wefannau eraill
Gall erthyglau ar y Wefan hon gynnwys deunydd wedi’i ymgorffori (e.e. fideos, delweddau, erthyglau, adolygiadau ac ati). Mae cynnwys wedi’i ymgorffori o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr un modd yn union â phetai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall.
Gall y gwefannau hyn o bosib gasglu data amdanoch chi, defnyddio cwcis, ymgorffori tracio trydydd-parti ychwanegol, a monitro eich rhyngweithio gyda’r cynnwys wedi’i ymgorffori, yn cynnwys dilyn eich rhyngweithio gyda’r cynnwys wedi’i ymgorffori os oes gennych gyfrif a’ch bod wedi mewngofnodi i’r wefan honno.
Beth sy’n digwydd pan fyddwn yn cysylltu â gwefannau eraill?
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i’n Gwefan ni yn unig. Pan fyddwch yn cyflwyno eich busnes, sefydliad neu broffil swydd, byddwn yn cysylltu â’r dolenni gwefan a roesoch i ni, fel y gall defnyddwyr ymweld â’r safleoedd hyn i gael gwybodaeth bellach amdanoch chi, eich cynigion a’ch gwasanaethau. Bydd gan y gwefannau hyn eu telerau ac amodau, a’u polisïau preifatrwydd, eu hunain. Nid oes gennym ni unrhyw reolaeth dros y modd y mae eich data’n cael ei gasglu, ei storio neu ei ddefnyddio gan wefannau eraill, ac rydym yn eich cynghori chi i wirio polisïau preifatrwydd gwefannau o’r fath cyn darparu unrhyw ddata iddynt.
Am ba hyd y byddwn ni’n cadw eich data?
Os byddwch yn gadael sylw, bydd y sylw hwnnw a’i fetadata’n cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Gwneir hyn fel bod modd i ni adnabod a chymeradwyo unrhyw sylwadau dilynol yn awtomatig yn hytrach na’u dal mewn ciw cymedroli.
Yn achos defnyddwyr sy’n cofrestru neu’n creu proffil ar ein Gwefan ni, rydym hefyd yn storio’r wybodaeth bersonol maent yn ei darparu yn eu proffil defnyddiwr. Gall pob defnyddiwr weld, olygu neu ddileu eu gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg (ond ni allant newid eu henw defnyddiwr). Gall gweinyddwyr y Wefan hefyd weld a golygu’r wybodaeth honno.
Pa hawliau sydd gennych dros eich data?
Os oes gennych broffil neu gyfrif ar ein Gwefan ni, neu os ydych wedi gadael sylwadau, gallwch wneud cais am ffeil wedi’i hallforio o’r data personol rydym yn ei ddal amdanoch chi, yn cynnwys unrhyw ddata rydych wedi ei ddarparu i ni. Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu unrhyw ddata personol rydym yn ei ddal amdanoch chi. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata mae’n ofynnol i ni ei gadw i bwrpasau gweinyddol, cyfreithiol neu ddiogelwch.
I ble rydyn ni’n anfon eich data
Defnydd trydydd-parti o wybodaeth bersonol
Mae’n bosib y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd-partïon pan fyddwch yn ein hawdurdodi’n benodol i wneud hynny.
Yn ychwanegol, mae’n bosib y bydd ein Gwefan yn defnyddio darparwyr gwasanaeth trydydd-parti i wasanaethu gwahanol elfennau o’n Gwefan. Caiff defnydd pob darparwr gwasanaeth trydydd-parti o’ch gwybodaeth bersonol ei lywio gan eu polisïau preifatrwydd hwy eu hunain nad oes gennym ni unrhyw reolaeth drostynt.
Ar hyn o bryd, mae ein gwefan yn defnyddio’r darparwyr gwasanaeth trydydd-parti canlynol:
Google Analytics
Mae’r gwasanaeth hwn yn tracio defnydd o’r Wefan ac yn darparu gwybodaeth megis cyfeirio at wefannau a gweithredoedd defnyddiwr ar ein Gwefan ni. Gall Google Analytics gipio eich cyfeiriad IP, ond nid ydynt yn cipio unrhyw wybodaeth bersonol arall. Ein sail gyfreithiol dros gasglu’r wybodaeth hon yw ei bod yn angenrheidiol i’n budd dilys i gyflwyno cynnwys, cynhyrchion a gwasanaethau perthnasol i chi.
Mailchimp a Flodesk
Defnyddir y gwasanaethau hyn i ddosbarthu diweddariadau ebost a chylchlythyron. Rydym yn storio eich enw a’ch cyfeiriad ebost i bwrpas anfon cyfathrebiadau o’r math yma. Am ragor o wybodaeth, dylech gyfeirio at bolisi preifatrwydd Mail Chimp a Flodesk. Fel rydym wedi ei gynghori uchod, ein sail gyfreithiol yw eich bod wedi cytuno y gallwn gasglu’r wybodaeth hon, a’i bod o fudd dilys i ni ddarparu cynnwys, gwasanaethau a chynhyrchion perthnasol ar eich cyfer.
Ar hyn o bryd, ni chaiff eich gwybodaeth bersonol ei rhannu gydag unrhyw geisiadau trydydd-parti eraill. Mae’n bosib y bydd y rhestr hon yn cael ei diwygio o bryd i’w gilydd, yn ôl ein doethineb ni.
Heblaw pan fo hynny’n ofynnol dan y gyfraith, ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu, na datgelu eich cyfeiriadau ebost nac unrhyw wybodaeth bersonol arall heb eich caniatâd; fodd bynnag, mae’n bosib y gallwn ddatgelu neu drosglwyddo gwybodaeth bersonol a gesglir drwy ein Gwefan i drydydd-partïon sy’n caffael ein busnes cyfan neu gyfran ohono o ganlyniad i gyfuniad, cydgyfnerthiad, neu bryniant o’n holl asedau, neu gyfran ohonynt, neu mewn cysylltiad ag unrhyw achos o fethdaliad neu aildrefnu a ddygir gennym ni neu yn ein herbyn.
Hysbysebu
Hysbysebion Arddangos
Pan fyddwch yn ymweld â’n Gwefan, mae’n bosib y byddwn yn defnyddio cwmnïau hysbysebu trydydd-parti i weini cynnwys a hysbysebion, a gall y rhain ddefnyddio cwcis, fel y nodir uchod.
Aildargedu Hysbysebion
O bryd i’w gilydd, mae’n bosib y bydd ein Gwefan yn ymgysylltu ag ymdrechion ailfarchnata gyda chwmnïau trydydd-parti megis Google, Facebook, TikTok neu Instagram, er mwyn marchnata ein Gwefan. Mae’r cwmnïau hyn yn defnyddio cwcis i weini hysbysebion wedi’u seilio ar ymweliadau rhywun â’n Gwefan yn y gorffennol.
Cymryd rhan mewn Rhaglen Gysylltiedig
Gall ein Gwefan gymryd rhan mewn marchnata cysylltiedig, a wneir trwy ymgorffori dolenni tracio i mewn i’n Gwefan. Os byddwch yn clicio ar ddolen ar gyfer partneriaeth gysylltiedig, gellir gosod cwci ar eich porwr i dracio unrhyw bryniant i bwrpas comisiynau.
Cylchlythyron
Ar ein Gwefan mae modd tanysgrifio i’r cylchlythyr, y gellir ei ddefnyddio i bwrpasau hysbysebu. Gall y cylchlythyron a anfonir gynnwys picsels tracio. Caiff y picsel ei ymgorffori mewn ebyst ac mae’n caniatáu gwneud dadansoddiad o lwyddiant ymgyrchoedd marchnata ar-lein. Oherwydd y picsels tracio hyn, mae’n bosib y byddwn yn gweld a fyddwch yn agor ebost, a phryd mae hynny’n digwydd, a pha ddolenni o fewn yr ebost rydych yn clicio arnynt. Mae hyn hefyd yn caniatáu i’n Gwefan, yn y dyfodol, addasu cynnwys cylchlythyron i weddu i ddiddordebau’r defnyddiwr. Ni chaiff yr ymddygiad hwn ei basio ymlaen i drydydd-partïon.
Ein sail gyfreithiol dros gasglu’r wybodaeth hon (dan y pennawd hysbysebu) yw ei bod yn angenrheidiol i’n budd dilys fel bod modd i ni gyflwyno cynnwys, cynhyrchion a gwasanaethau perthnasol i chi.
Sut rydym yn storio eich data personol?
Caiff eich data personol ei storio ar ein gweinyddion o fewn y Deyrnas Unedig.
Mae’n bosib y byddwn yn trosglwyddo’r data a gasglwyd i leoliad storio y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) neu’r Deyrnas Unedig (DU). Mae’n bosib y bydd yn cael ei brosesu y tu allan i’r EEA neu’r DU fel bod modd i chi dderbyn ein Gwefan a delio â thaliad. Os byddwn ni’n storio neu drosglwyddo data y tu allan i’r EEA neu’r DU, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich data’n cael ei drin mor ddiogel ag y byddai o fewn yr EEA neu’r DU.
Mae hyn yn golygu y byddwn weithiau’n gorfod defnyddio termau cytundebol sy’n rhwymo mewn cyfraith rhyngom ni ac unrhyw drydydd- partïon y byddwn yn ymgysylltu â hwy, a defnyddio’r Trefniadau Cytundebol Model a gymeradwyir gan yr Undeb Ewropeaidd.
Mae diogelwch data yn bwysig iawn i mi, ac i ddiogelu eich data chi rydym wedi gosod gweithdrefnau pwrpasol – corfforol, electronig a rheolaethol – yn eu lle i warchod a diogelu data a gasglwyd drwy ein Gwefan. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu mynediad at eich data personol i’r cyflogeion, asiantau, contractwyr a’r trydydd- partïon hynny sydd ag angen gwybod. Ni fyddant yn prosesu eich data personol heblaw ar ein cyfarwyddiadau ni, ac maent yn gweithredu dan amod o gyfrinachedd.
Byddwn yn parhau i fod yn gyfrifol am ddiogelu eich data personol, hyd yn oed os caiff ei drosglwyddo y tu allan i’r EEA neu’r DU.
Rydym yn cynnal adolygiadau rheolaidd o’n rhwymedigaethau i gadw data, er mwyn sicrhau nad ydym yn cadw data am gyfnod hirach nag sy’n rhaid i ni’n gyfreithlon ei wneud.
Neges i breswylwyr Califfornia ynghylch arferion a hawliau preifatrwydd
Os ydych yn byw yng Nghaliffornia, mae’n bosib y gall cyfraith Califfornia roi hawliau ychwanegol i chi parthed eich data personol.
Eich hawliau
Mae’r California Consumer Privacy Act 2020 (“CCP A”) yn rhoi’r hawliau canlynol i chi:
Yr hawl i wybod am yr wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu a’i rhannu:
- Mae’r CCPA yn rhoi hawl i chi ofyn i ni ddatgelu’r darnau penodol o wybodaeth bersonol rydym wedi ei chasglu amdanoch chi;
- Gweler uchod am wybodaeth ar y data rydym yn ei gasglu amdanoch chi, a sut rydym yn ei brosesu; ac
- Nid ydym yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol. Rydym, fodd bynnag, yn datgelu eich data personol i drydydd-partïon cyfyngedig, fel y disgrifiwyd uchod.
Yr hawl i ddileu:
- Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol, yn amodol ar eithriadau arbennig.
Os dymunwch ddileu eich data personol, cysylltwch â ni yn ffenestsiop@llaiscymru.wales. Noder, os gwelwch yn dda, y gallai fod angen i ni ofyn i chi am wybodaeth i wirio eich hunaniaeth cyn gallu ymateb i’ch cais.
Datgeliadau ynghylch eich gwybodaeth bersonol
Rydym yn casglu’r categorïau o wybodaeth bersonol gennych mewn perthynas â’ch defnydd o’n Gwefan ni, fel y disgrifir uchod.
Dim gwahaniaethu
Ni fyddwn yn gwahaniaethu yn eich erbyn am weithredu unrhyw rai o’ch hawliau CCPA.
Hawliau sy’n berthnasol i’ch gwybodaeth bersonol
Optio allan
Gallwch optio allan o bob cyfathrebiad ebost yn y dyfodol trwy ddilyn y dolenni dad-danysgrifio yn ein ebyst. Gallwch hefyd ein hysbysu ni yn ffenestsiop@llaiscymru.wales o’ch dymuniad i gael eich tynnu oddi ar ein rhestr bostio.
Mynediad
Gallwch gael mynediad at yr wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi trwy gyflwyno cais i ni yn ffenestsiop@llaiscymru.wales
Newid
Gallwch gysylltu â ni yn ffenestsiop@llaiscymru.wales i newid neu ddiweddaru eich gwybodaeth bersonol.
Anghofio
Mewn rhai sefyllfaoedd, gallech ofyn i ni ddileu neu anghofio eich data personol. Anfonwch gais at ffenestsiop@llaiscymru.wales
Nodwch, os gwelwch yn dda, y gall fod angen i ni gadw peth gwybodaeth i bwrpas cadw cofnodion, neu i gwblhau trafodion, neu pan fo angen hynny dan y gyfraith.
Gwybodaeth bersonol sensitif
Ni ddylech ar unrhyw adeg gyflwyno gwybodaeth bersonol sensitif i’n Gwefan. Os byddwch yn dewis cyflwyno gwybodaeth o’r fath i ni, bydd yn ddarostyngol i’r Polisi Preifatrwydd hwn.
Cysylltwch â mi
Mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd gyda chwestiynau sy’n berthnasol i’r Polisi Preifatrwydd hwn: ffenestsiop@llaiscymru.wales