Ein stori...

Cymerwch gip olwg trwy’r ffenest...

Ein cariad ac angerdd tuag at Gymru a’r iaith Gymraeg yw’r hyn sy’n ein gyrru...

Ffenest Siop yw’r lleoliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg, y rhai sy’n dysgu Cymraeg a’r rhai sydd eisiau cefnogi Cymru, i ddarganfod a chefnogi busnesau, gwasanaethau Cymraeg a dod o hyd i gyfleoedd gwaith.

Ry’n ni yma i agor ffenestri a drysau. Ein gweledigaeth yw creu Cymru lle mae pob busnes a darparwr gwasanaeth yn cynnig eu gwasanaethau yn y Gymraeg, lle gall y Cymry ffynnu mewn swyddi Cymraeg yn eu hardal leol, a lle mae pawb yn cefnogi’n lleol yn gyntaf.

Mae ein nod yn syml – rydym am hybu’r Gymraeg, economi Cymru a chymunedau Cymraeg.

Creu cymunedau bywiog lle gall siaradwyr Cymraeg lwyddo mewn gyrfaoedd Cymraeg yn eu hardal leol, sydd wrth galon popeth rydym yn ei wneud. Mae ein gweledigaeth wedi’i wreiddio yn y gred bod pob busnes a gwasanaeth Cymraeg yn haeddu llwyfan – ffenest siop i ddathlu eu bod yn darparu gwasanaeth yn y Gymraeg, a’u helpu i gael eu darganfod, eu cefnogi, a thyfu.

Cefnogwyd gan | Supported by Cronfa Her ARFOR

Shwmae! Heulwen ‘dwi...

Wedi’i sefydlu gan Heulwen Davies, y Gymraes weledigaethol a sefydlydd Llais Cymru, mae Ffenest Siop yn esblygiad naturiol o wasanaethau marchnata a chysylltiadau cyhoeddus dwyieithog Llais Cymru, sy’n cyd-fynd gydag angerdd Heulwen i wneud gwahaniaeth i’r wlad, yr iaith a’r diwylliant Cymreig sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ei DNA.

Fel siaradwr Cymraeg mae Heulwen wastad wedi teimlo’r cysylltiad emosiynol dwfn gyda busnesau a darparwyr gwasanaeth Cymraeg. Nid yw Heulwen ar ei phen ei hun, mae siaradwyr Cymraeg ymhobman eisiau cefnogi’r rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg.

Breuddwyd Heulwen yw i bontio’r bwlch rhwng darparwyr Cymraeg a’u cwsmeriaid, gan greu man lle gall siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg yng Nghymru a’r byd ddarganfod a chefnogi darparwyr gwasanaethau Cymraeg yn haws. Pam? Er mwyn cadw’r iaith yn fyw, i hybu’r economi leol ac i greu gwlad fywiog a lwyddiannus lle gall ei merch hi a chenedlaethau’r dyfodol fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru – gwlad lwyddiannus y bydd pawb yn ei hedmygu a’i charu cymaint ag y mae Heulwen.

Mae Heulwen yn cyflwyno Ffenest Siop i chi. Wrth gefnogi’r aelodau, rydych yn chwarae eich rhan wrth wneud ei breuddwyd hi yn realiti...amdani!

Haia! Heledd i fi...

Haia! Heledd i fi, is-reolwr Ffenest Siop, a fi mor gyffrous i fod yma!
 
Fel rhywun sydd wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar S4C ac yn lais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru, mae'r Gymraeg wedi bod yn rhan hollol annatod o fy mywyd, a fi mor ddiolchgar i Gymru a'r Gymraeg!
 
Dwi'n wreiddiol yn dod o Sir Gâr ond nes i symud i'r Gogs rhyw 6 mlynedd yn ôl a dwi wedi disgyn mewn cariad gydag Ynys Môn!
 
Mae gweithio gyda chwmnïoedd, busnesau a gwasanaethau Cymraeg yn fraint a fi'n CARU eu cefnogi nhw beth bynnag, felly 'odd cymryd y swydd yma gyda Ffenest Siop yn rhywbeth 'odd 'jyst yn neud sens'!
 
Edrych 'mlan i sgwrsio gyda chi!