Gadewch i ni ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg i ymuno â’ch tîm!
Chwilio am siaradwr Cymraeg i ymuno â’ch tîm? Eisiau cynyddu eich gwasanaethau a darpariaeth Cymraeg? Rydych chi yn y lle iawn!
Rhestrwch eich swydd a gadewch i ni ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg i ymuno â’ch tîm!
Ydych chi’n berchen ar fusnes Cymraeg?
Eisiau recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg?
Mae ein hadran swyddi wedi’i neilltuo i swyddi a chyfleoedd lle mae’r iaith Gymraeg yn hanfodol neu’n hynod o ffafriol.
Rydym eisiau helpu a chefnogi busnesau a sefydliadau i dyfu eu gwasanaethau Cymraeg ar gyfer eu cwsmeriaid, a helpu siaradwyr Cymraeg i ddarganfod mwy o gyfleoedd gwaith yn lleol.
Wrth restru eich swydd gyda ni, rydych yn chwarae eich rhan i’n helpu ni i greu Cymru lle mae’r iaith Gymraeg ac economi Cymru yn tyfu gyda’i gilydd, Cymru lle mae pob busnes a sefydliad yn gweithredu’n ddwyieithog. Rhestrwch eich swydd a gadewch i ni eich helpu chi i ddod o hyd i’r siaradwr Cymraeg perffaith i ymuno â’ch tîm.
Hysbysebu Swydd
£175
Rhestriad 45 dydd
- Enw’r busnes
- Disgrifiad o’r swydd yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Lleoliad
- Categori
- Rhif cyswllt
- E-bost
- Gwefan
- Manylion Cyfryngau Cymdeithasol
- Map
- Dyfyniad
- Cyflog
- Dyddiad Cau
- Cyfleodd agored
- Linc i’r ffurflen gais
- Logo eich busnes
Chwilio am rywbeth arall?
Podlediad Siarad Siop
Gwrandewch ar y lleisiau llwyddiannus yn ein podlediad dwyieithog Siarad Siop – Shop Talk!